2014 Rhif 519 (Cy. 61)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Hadau a Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Newidiadau i’r Gyfundrefn Enwi) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 (O.S. 2012/245 (Cy.39)) a  Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995 (O.S. 1995/2652 (“y Rheoliadau Planhigion Llysieuol”) mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2013/45/EU (OJ Rhif L 213, 8.8.2013 t.20) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/55/EC (OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t.33), Cyfarwyddeb 2008/72/EC (OJ Rhif L 205, 1.8.2008, t.28) a Chyfarwyddeb 2009/145/EC (OJ Rhif L 312,  27.11.2009, t.44) o ran enw botanegol tomato i adlewyrchu adolygiadau i God Rhyngwladol y Gyfundrefn Enwi Fotanegol.

Diddymwyd Cyfarwyddeb 92/33/EEC (OJ Rhif L 157, 10.6.1992, t.1) gan Gyfarwyddeb 2008/72/EC ar farchnata deunydd lluosogi a phlannu llysieuol, ac eithrio hadau. Diwygir y Rheoliadau Planhigion Llysieuol i adlewyrchu'r dirymiad hwn. Maent bellach yn gymwys i ddeunydd planhigion o'r genera a’r rhywogaethau a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 2008/72/EC fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd. 

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.


2014 Rhif 519 (Cy. 61)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Hadau a Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Newidiadau i’r Gyfundrefn Enwi) (Cymru) 2014

Gwnaed                                 5 Mawrth 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.      7 Mawrth 2014

Yn dod i rym                        31 Mawrth 2014

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi([1]) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([2]) o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd.  Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 16(1), (1A), (2), (3), (4), (5) a (5A) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion  1964([3]), wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy'n ymddangos yn berthnasol yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([4]), a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r cyfeiriad sydd yn y Rheoliadau hyn at Atodlen II i Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/72/EC([5]) ar farchnata deunydd lluosogi a phlannu llysieuol, ac eithrio hadau, gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodlen honno fel y'i diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau a Deunyddiau Planhigion Llysieuol (Newidiadau i’r Gyfundrefn Enwi) (Cymru)  2014. 

   (2) Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Mawrth 2014.

Diwygio Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

2.—(1) Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012([6]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yng ngholofn 1 (Planhigion y mae'r Rheoliadau yn gymwys iddynt) o Atodlen 1 (Hadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt) ar gyfer “Lycopersicon esculentum Mill”, rhodder—

             “Solanum lycopersicum L.”.

Diwygio Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995

3.(1) Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995([7]) wedi eu diwygio mewn perthynas â Chymru fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 (Dehongli)— 

(a)     Hepgorer y diffiniad o “Directive 92/33/EEC”;

(b)     Ar ôl y diffiniad o “Directive 93/61/EEC”, mewnosoder—

 ““Directive 2008/72/EC” means Council Directive 2008/72/EC on the marketing of vegetable propagating and planting material, other than seed;”

(3) Yn rheoliad 3(1) (Deunyddiau planhigion y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt), yn lle is-baragraffau (a) a (b) rhodder—

“(a) plant material of the genera and species set out in Annex II as amended from time to time, to Directive 2008/72/EC and their hybrids; and

(b) rootstocks and other parts of plants of other genera or species and their hybrids if plant material of a genus or species set out in Annex II, as amended from time to time, to Directive 2008/72/EC or of a hybrid of such a genus or species is or is to be grafted on to them.”.

(4) Yn rheoliad 5(d) (Gofynion ansawdd ar gyfer deunyddiau planhigion), yn lle is-baragraff (ii) rhodder—

“(ii) it belongs to a variety officially accepted in a member State in accordance with Article 9 of Directive 2008/72/EC; and”.

 

 

 

 

 

 

 

 

Alun Davies

 

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

 

5 Mawrth 2014

 

 

 



([1])           O.S. 2010/2690.

([2])           1972 p.68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51), a Rhan 1 o'r Atodlen i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7). 

([3])           1964 p.14. Diwygiwyd Adran 16 gan adran 4 a pharagraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68);  O.S. 1977/1112; ac adran 2 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1986 (p. 49).Gweler adran 38(1) ar gyfer y  diffiniad o “the Minister”. O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol ac o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.  Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae'r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

([4])           Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).

([5])           OJ Rhif  L 205, 1.8.2008, t.28, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2013/45/EU, OJ Rhif L 213, 8.8.2013 t.20.

([6])           O.S. 2012/245 (Cy.39), y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

([7])           O.S. 1995/2652, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/2190 (Cy.174), Rheoliadau 2(2) a 2(3);  mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.